Ecclesiastes 12

1Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc,
cyn i'r dyddiau anodd gyrraedd
a'r blynyddoedd ddod pan fyddi'n dweud,
“Dw i'n cael dim pleser ynddyn nhw.”
2Cyn i'r haul a golau'r lleuad a'r sêr droi'n dywyll,
a'r cymylau'n dod yn ôl eto ar ôl y glaw:
3Pan mae gwylwyr y tŷ yn crynu,
a dynion cryfion yn crymu;
y rhai sy'n malu'r grawn yn y felin yn mynd yn brin,
a'r rhai sy'n edrych drwy'r ffenestri yn colli eu golwg.
4Pan mae'r drysau i'r stryd wedi cau,
a sŵn y felin yn malu wedi tawelu;
pan mae rhywun yn cael ei ddeffro'n gynnar gan gân aderyn
er fod holl seiniau byd natur yn distewi.
5Pan mae gan rywun ofn uchder
ac ofn mynd allan ar y stryd.
Pan mae blodau'r pren almon yn troi'n wyn,
y ceiliog rhedyn yn llusgo symud,
a chwant rhywiol wedi hen fynd.
Pan mae pobl yn mynd i'w cartref tragwyddol,
a'r galarwyr yn dod allan ar y stryd.
6Cyn i'r llinyn arian dorri
ac i'r fowlen aur falu,
a'r llestr wrth y ffynnon yn deilchion,
a'r olwyn i'w godi wedi torri wrth y pydew.
7Pan mae'r corff yn mynd yn ôl i'r pridd fel yr oedd,
ac anadl bywyd yn mynd yn ôl at Dduw,
yr un a'i rhoddodd.

8Mae'n ddiystyr! – meddai'r Athro – dydy'r cwbl yn gwneud dim sens!

Ôl-nodyn gan y golygydd

9Roedd yr Athro yn ddyn doeth, a dysgodd ddoethineb i'r bobl. Bu'n pwyso a mesur gwirionedd llawer o ddywediadau, ac yn eu gosod mewn trefn. 10Roedd yr Athro yn ceisio dod o hyd i ddywediadau oedd wrth ei fodd, ac wrth ysgrifennu roedd yn dweud y gwir plaen. 11Mae dywediadau'r doeth yn procio'r meddwl; maen nhw'n brathu weithiau, fel hoelion mewn ffon i yrru anifeiliaid. Yr un Bugail sydd wedi rhoi'r casgliad i gyd i ni.

12Un rhybudd olaf, fy mab. Gellid ysgrifennu llyfrau diddiwedd am y pethau yma, ac mae astudio yn waith caled sydd byth yn dod i ben. 13I grynhoi, y cwbl sydd i'w ddweud yn y diwedd ydy hyn: Addola Dduw a gwna beth mae e'n ddweud! Dyna beth ddylai pawb ei wneud. 14Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw – hyd yn oed beth oedd o'r golwg – y da a'r drwg.

Copyright information for CYM